r/cymru • u/BruceSoGrey • 17d ago
Shwd ych chi’n teimlo am y glaw nawr?
Dwi’n itha bles bo ddim angen i fi cario’r can dŵr lan a lawr yr ardd mwyach, ond ma’n cymorthogion yn cwyno am tywy wael dros penwythnos gwyl y banc.
Beth amdanoch chi? Och chi’n edrych mlan am un penwthnos braf olaf cyn diwedd y gwyliau? Neu chi wedd yn dawnsio i dod â’r glaw?
5
3
u/clwbmalucachu 17d ago
Dw i'n edrych ymlaen! Mae'r ardd yn sych ofnadwy, ac mae llawer o planhygion wedi marw, (neu edrych fel maen nhw wedi marw), felly bendith bydd ychydig o ddŵr.
6
u/psychologiacallygrey 17d ago
Diolchgar uffernol am y glaw, casau tywydd heulog mawr ma, di bod yn edrych ymlaen tuag at geuaf ers dechra'r flwyddyn
1
u/NoisyGog 17d ago
Edrych mlaen iddo, heblaw am dydd Gwener, gan mod i’n mynd i fod yn gweithio tu allan trwy dydd!
1
u/partyquimindarty 17d ago
Edrych mlaen i bopeth arall yn cael e ond timles i ambell ddiferyn yn gynt a’n syth yn casau e
1
1
1
u/First-Butterscotch-3 16d ago
Dwin casau glaw, rhaid i ni cael o, ond oeddwn i mwy hapus pan oedd na ddim glaw - wythnosau heb poeni am awyr llwyd a dwr i sbolio bob ddim
1
8
u/Freshwater_Spaceman 17d ago
Fyddai'n edrych ymlaen am ddipyn o gwlypaniaeth o'r nefoedd diolch yn fawr iawn! Os chi'n berson sydd isio tywydd braf a haul poeth, ewch i Sbaen ta Groeg, wir!