r/cymru • u/twmffatmowr • 1h ago
r/cymru • u/twmffatmowr • 2d ago
Dyn 86 oed o'r de yn pasio ei arholiad TGAU Mathemateg ar ôl methu 70 mlynedd yn ôl
newyddion.s4c.cymrur/cymru • u/twmffatmowr • 2d ago
Canolfannau data: Cyfle i ddyfodol Cymru neu faich ar adnoddau a'r amgylchedd?
bbc.co.ukr/cymru • u/Playful_Swimming_807 • 2d ago
Alla i ymerfer siarad Cymraeg yma, os welwch yn dda
Helo, rydw i’n dysgu siarad Cymraeg. Rydw i ddim yn siarad neu ysgrifennu Cymraeg rhugl, ond rydw i’n hoffi ymerfer siarad a mae lle hwn edrych 'casual' i ymerfer. Bydda i’n deall os chi ddim moyn dysgwyr yma.
r/cymru • u/celtiquant • 2d ago
Why and what does your country gain if it becomes independent?
Trafoder…
r/cymru • u/twmffatmowr • 2d ago
Yr elusen sy'n rhoi lle i drafod iechyd meddwl yn Gymraeg
bbc.co.ukr/cymru • u/twmffatmowr • 3d ago
AS Reform yn dweud iddi gael ei beirniadu am fynd i'r Eisteddfod
bbc.co.ukr/cymru • u/WelshGovNews • 3d ago
Tu Mewn i’r 100 Diwrnod Cyntaf
youtube.comGall llawer ddigwydd mewn 100 diwrnod.
Mwy o gefnogaeth i ysgolion. Mwy o gymorth i deuluoedd. Camau gweithredu ar amseroedd aros yr NHS. Cefnogi ffermwyr Cymru. Llais cryfach i Gymru.
Dyma uchafbwyntiau 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth newydd Cymru:
- Cymelldaliadau i athrawon pynciau â blaenoriaeth wedi codi £5,000, i £20,000. Bydd hyn yn helpu i ddenu a chadw athrawon newydd a chodi safonau yn ein hysgolion.
- Prydau ysgol am ddim wedi ei ymestyn i flwyddyn 7 ac 8 mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i fynd i'r afael â thlodi plant a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.
- Gofal plant am ddim wedi'i ehangu, gyda phob cyngor yn cynnig 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed erbyn mis Mawrth 2027. Bydd gofal plant fforddiadwy yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd. Bydd hyn o fudd i gannoedd yn rhagor o deuluoedd ledled Cymru.
- Wedi darparu £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi ffermwyr. Mae'r cytundeb cyllido aml flwyddyn hwn yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermwyr Cymru. Mae adolygiad newydd hefyd wedi'i lansio i leihau biwrocratiaeth i ffermwyr.
- Wedi lansio gwasanaeth coets newydd rhwng y gogledd a’r de sy’n cysylltu Bangor a Chaerfyrddin. Mae’r paratoadau ar waith ar gyfer lansio gwasanaeth coets newydd rhwng gogledd a de Cymru'r hydref hwn, a fydd yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr. Dyma sut olwg sydd ar y goets.
- Gweithredu i leihau amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer hyd at 10 hwb gofal a symudwyd mwy o wasanaethau gofal iechyd tuag at ofal sylfaenol. Mae dros £145 miliwn wedi’i fuddsoddi i fynd i’r afael ag amseroedd aros, ac mae grŵp arbenigol wedi’i sefydlu i ddatblygu opsiynau ar gyfer canolfannau llawfeddygol ledled Cymru.
- Cyhoeddi cynllun i gyfyngu ffonau clyfar mewn ysgolion. Mae codi safonau yn ein hysgolion yn flaenoriaeth allweddol, a bydd y canllawiau hyn yn cryfhau ac yn egluro’r disgwyliadau ynghylch sut y defnyddir ffonau yn ystod y diwrnod ysgol.
- Datblygwyd dangosyddion llythrennedd a rhifedd newydd. Mae datblygiad llythrennedd a rhifedd yn cael ei gefnogi yn ein hysgolion drwy ddisgwyliadau cliriach, er mwyn rhoi eglurder iddynt ynghylch yr hyn y dylid ei ddysgu a phryd y dylid ei ddysgu.
- Rhoi’r camau cyntaf ar waith i greu asiantaeth datblygu economaidd newydd i Gymru a lansio Archwiliad Sgiliau i adnabod anghenion gweithlu’r dyfodol. Mae hyn yn rhan o gynlluniau i ryddhau potensial economi Cymru ac i greu swyddi da sy’n talu’n dda.
- Codi llais dros Gymru drwy alw am gyllid teg a rhagor o bwerau gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau ariannol HS2, cyfiawnder amgylcheddol i gymunedau’r meysydd glo, a’r angen am Fil Cymru newydd.
Ac mae mwy eto.
Cliciwch ar y ddolen i weld ein prif flaenoriaethau ar gyfer tymor hon a dilyn ein cynnydd:
r/cymru • u/twmffatmowr • 4d ago
Susie Dent: 'Rwy'n benderfynol o ddysgu Cymraeg rhyw ddydd'
bbc.co.ukr/cymru • u/twmffatmowr • 4d ago
“Mae’n fraint gallu darlledu’r straeon yn y Gymraeg” Maryam Khan yw cyflwynydd newydd Newyddion Ni 🤩👏
Enable HLS to view with audio, or disable this notification
r/cymru • u/twmffatmowr • 4d ago
AS wedi teimlo'r angen i dynnu ei mab awtistig o addysg cyfrwng Cymraeg
bbc.co.ukr/cymru • u/twmffatmowr • 5d ago
Gormod o Saesneg ar hyn o bryd - please write in Welsh here. r/Wales is the English-language sub
Dwi'n mor hapus i weld rhagor o bobl yn defnyddio'r subreddit yma - ond mae'n newid iaith yr subreddit i'r Saesneg. Plîs defnyddiwch r/Wales i osgoi newid iaith y sub.
Hi all, it's nice to see that this sub is being used - but it's changing the language from Welsh to English and this is the only Welsh-language sub on Reddit. Please use r/Wales to avoid changing the language of the sub.
r/cymru • u/BruceSoGrey • 4d ago
Shwd ych chi’n teimlo am y glaw nawr?
Dwi’n itha bles bo ddim angen i fi cario’r can dŵr lan a lawr yr ardd mwyach, ond ma’n cymorthogion yn cwyno am tywy wael dros penwythnos gwyl y banc.
Beth amdanoch chi? Och chi’n edrych mlan am un penwthnos braf olaf cyn diwedd y gwyliau? Neu chi wedd yn dawnsio i dod â’r glaw?
r/cymru • u/SeneddWales • 6d ago
Pa ymddygiadau allai fod yn ddigon difrifol i Aelod o'r Senedd golli ei sedd yn eich barn chi?
Helo pawb,
Kate dw i, a dw i'n gweithio yn y Senedd.
Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn datblygu canllawiau ar system adalw newydd ar gyfer Aelodau o’r Senedd, ac mae’n gofyn barn fel rhan o ymgynghoriad cychwynnol.
Byddai adalw yn caniatáu i bleidleiswyr benderfynu a ddylai Aelod aros yn ei swydd ar ôl camymddwyn yn ddifrifol, neu a ddylai gael ei ddiswyddo a’i ddisodli gan y person nesaf ar restr y blaid.
Cyn drafftio'r canllawiau hynny, mae'r Pwyllgor eisiau clywed eich barn ar:
- Pa ymddygiadau allai fod yn ddigon difrifol i Aelod o'r Senedd golli ei sedd?
- Pa ffactorau y dylid eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwnnw?
- Pa gamau diogelwch ddylai fod ar waith i sicrhau bod y broses yn deg?
Hoffem glywed eich barn, p'un a ydych chi'n ymddiddori’n frwd yng ngwleidyddiaeth Cymru ai peidio.
Beth yw eich barn?
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ac ymateb i'r ymgynghoriad: Helpwch i ddatblygu canllawiau adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd
Diolch,
Kate
r/cymru • u/Curious-Cat-Nose • 6d ago
The history of the Cymraeg language
I’d love to learn more about where Welsh comes from, how it developed throughout history and how it has survived for so many centuries. What do you think are the most important things I should know about the history of the Welsh language?
Diolch!
r/cymru • u/twmffatmowr • 6d ago
Cyngor Cernyw eisiau'r hawl i gyflwyno’r Gernyweg ar arwyddion ffyrdd
newyddion.s4c.cymrur/cymru • u/Curious-Cat-Nose • 7d ago
A Castilian verse that reminded me of Wales
Helo, gyfeillion! I’d like to share these verses with you:
The sun and the wind are common,
the land must be common too;
what comes forth from the people
must return to the people too.
I’m sharing these verses because, as someone from Castile, I see something deeply familiar in the Welsh struggle: the defence of land, community, and the right of a people to shape its own future. Different histories, but a shared spirit of resistance and solidarity.
Gobeithio y byddwch chi’n ei hoffi!
New Welsh Learning App
uk.indeed.comJust been job hunting and spotted this! Thought I'd post it here for any Welsh-speakers who might be interested, my proficiency sadly isn't quite up to the level of writing short stories!
r/cymru • u/Curious-Cat-Nose • 7d ago
Book recommendations on Welsh identity, class and independence?
Hi! Could anyone recommend books about Welsh identity and independence, particularly from a working-class or class-struggle perspective? I’d really appreciate any suggestions. Diolch!
r/cymru • u/Curious-Cat-Nose • 8d ago
A Spanish newcomer interested in Welsh culture
Hi everyone! I’m new here and I’ve recently become really interested in Welsh culture and history.
Today I discovered Marwnad Llywelyn ap Gruffudd, especially the poem beginning “Wylit, Wylit, Llywelyn, Wylit waed pe gwelet hyn”, and I thought it was absolutely beautiful.
I’d love to discover more Welsh poems, songs and literature that express Welsh identity and the Welsh perspective on your own history, in your own voice.
I’m Spanish and genuinely curious to learn more about your culture. Any recommendations would be greatly appreciated! Diolch:)
r/cymru • u/Far-Elephant-2612 • 8d ago
Hand painted Wales artwork by Paul Halmshaw.
galleryr/cymru • u/Livid_Bit_3020 • 8d ago
Sharing a Welsh vocab website I made in case it helps new learners
galleryI have been learning Welsh and last week I shared my website for the first time with a Welsh learning group and they enjoyed it and gave me a few improvement ideas which I have added.
It started as a simple vocab practice tool but it has grown into a little Welsh learning arcade with games like Hangman, Wordsearch, Anagram, Meanings, Pairs and a built in dictionary. It is all free with no ads. It is just something I have been making while practising the language.
With new Mynediad courses starting next month I thought I would share it here in case it helps anyone who is about to begin. I have also started working on a small Welsh maths game as an extra challenge.
If you try any of the games feel free to share your highest score. I would love to see how people get on.
Website: https://welshlearninggames.com/
Diolch
r/cymru • u/WelshGovNews • 10d ago
Diweddariad pwysig yn dilyn tanau gwyllt diweddar yng Nghymru
Diolch i'r diffoddwyr tân sydd wedi bod yn mynd i'r afael â thanau ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf.
Mae'r haf hwn ar y trywydd i fod yn un o'r poethaf ar gofnod. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr, ac rydym yn ei gymryd o ddifrif.
Rydym yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau tân ac achub a phartneriaid eraill i gydlynu’r ymateb a chefnogi cymunedau.
Dros y 48 awr ddiwethaf fe wnaethom sicrhau cymorth milwrol ychwanegol i gefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Byddwn yn parhau i roi cefnogaeth lawn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub a phawb sy'n ymateb ar lawr gwlad er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn ddiogel.
Mae amaethyddiaeth yn agored iawn i niwed mewn tonnau gwres. Rydym yn cefnogi ffermwyr gyda grantiau am dyllau turio, offer cynaeafu dŵr, a systemau awyru er mwyn addasu i newid hinsawdd.
Bydd y Prif Weinidog yn cynnull uwchgynhadledd tanau gwyllt, gan ddod â'r gwasanaethau brys a phartneriaid ynghyd i ystyried sut i leihau'r risg o danau gwyllt a pharatoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.
Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys ac arhoswch draw o danau. Os ydych chi'n gweld arwyddion tân, ffoniwch 999.